23.5.07

Ôl Abord

Pan ddechreues i witho da’r Satan Mawr o’dd y siwrne i’r ganolfan alw yn un weddol hwylus. O’dd car da fi pryd ‘ny: Fiat Uno rhytgoch o’dd e, bocs matsys da peder olwyn o’dd fel oergell yn y gaeaf a ffwrn yn yr haf. O’dd y radio gyntefig yn pigo lan Atlantic 252 ond dim byd arall, o’dd nam ar y peiriant casét yn gneud i bopeth swno fel Pinky a Perky, o'dd y seddi'n drewi o betrol ac o’dd amheuon cryf da fi bod rhywbeth - neu rywun - wedi marw yn y gist. Heb law am ‘ny o’dd e’n, ym, wel, car fi o’dd e, reit? Bydde Jeremy Clarkson wedi wherthin am ei ben ond sai’n lico Jeremy Clarkson felly fi’n credu bod ni’n gyfartal.

Ond wrth gwrs dath y diwrnod anochel ‘na pan ffaelodd y car ei brawf MOT. Ar ôl ‘ny do’dd dim dewis da fi ond i fynd i’r gwaith ar y bws. Sai’n bod yn snoblyd ond fi ddim yn ffan o gludiant cyhoeddus. Ma’n hela fi meddwl am deyrnasiad braw Lyndon Russell a Ceri Oliver ar y bws ysgol.

Anifeilied gwyllt Blwyddyn 4 o’dd Lyndon a Ceri. Yn ogystal â rhannu un gell ymennydd o’dd gryn ddiddordeb ‘da nhw miwn crefft ymladd ond ddim y gallu na’r rhychwant sylw i’w meistroli. Bydde siwrne arferol yn cynnwys amryw o symudiade Bruce Lee-aidd lletchwith ‘da ambell i karate chop arswydus o ddanjerus ar gan diod rhyw grwt diniwed o Flwyddyn 2 - tra bod e’n dal i ifed mas ohono fe. Y peth dwetha clywes i o’dd fod y ddoi wedi ymuno â’r fyddin. Rhaid gweud dyw hyn ddim yn argoeli’n arbennig o dda ar gyfer ein record hawlie dynol yn Irac ac Affganistan.

Jiawch! Ma’n hanner ‘di tri o’r gloch bore! Mwy am fysus fory.

19.5.07

Lan a Lawr

Yn ôl arolwg swyddogol ddath mas yn ddiweddar ma’n debyg bo 29% o boblogeth y Deyrnas Unedig yn byw ar eu pen eu hunen. 'Na chi 17,400,000 o bobol sy’n gallu mynd i’r toiled heb i neb arall gwyno bo nhw di gadel y sedd lan neu lawr. Wow.

Fi rhwng doi feddwl ynglŷn â shwt i ymateb i’r ystadege diddorol ‘ma. Ar yr naill llaw dylen i fod yn bles bo fi’n perthyn i ganran pwysig sy'n mynd o nerth i nerth; ma'n amlwg yn ddiwydiant twf. Fi’n credu dylen ni, sef y 29%, gwrdd o bryd i’w gilydd er mwyn dathlu ffaith bo ni’n gwrthod (neu'n ffaelu) rhannu’n bywyde da pobol eraill. Os rhywun yn gwybod am glwb, canolfan hamdden neu stadiwm sy'n dal 17,400,000?

Ar y llaw arall, sai’n hoff o arolygon swyddogol, yn enwedig rhai sy’n f’atgoffa i o’n unigrwydd ers y peth Mandy Bebb ‘na. A shwt fi’n gwybod bo fi’n unig? Fi’n sefyll nghanol fy fflat ac yn gweiddi ‘Helo? O’s rhywun arall ‘ma??’ ac yn cal fy myddaru da'r tawelwch.

Wedi gweud ‘ny, ma fe’n weddol swnllyd yn y fflat ar y foment. Doi beth yn benodol sy’n hela fi’n grac: yn gynta, twrw’r trap aer mewn beipen dwr rywle yn fy stafell wely. Ddo' o'n i o fewn trwch blewyn o godi’r llawr i whilo amdano fe ond ma ofn da fi ddarganfod gweddillion y tenant blaenorol ‘di stwffo rhwng y distie.

Y llall yw'r pâr ifenc drws nesa sy'n gneud trwy’r blydi nos beth gall 71% o’r boblogeth neud oherwydd bod mwy nag un o’n nhw - yn enwedig pan fydda i a gweddill y 29% yn trio cysgu.
’Co nhw off to, y jiawled! Ma stamina da nhw, whare teg.

Gyda llaw, o’n i bob amser yn rhoi’r sedd lawr wedyn...

19.4.07

Coes Hir y Gyfraith

Anghofiwch ambyti newid yn yr hinsawdd a’r sefyllfa erchyll yn Irac. Y pwnc llosg heddi yw hyd trowseri plismyn: odyn nhw’n fyrach na’r hyd cyfartalog cenedlaethol?

Ma’n chwarter wedi hanner nos. Fi di bod yn gwylio un o’r sianeli siopa hyn ac er bo fi’n rhyfeddu ar allu’r cyflwynwyr i falu awyr am orie ambyti popeth dan haul ma nhw ambell waith yn mynd ar ôl ysgyfarnog wrth geisio llenwi awr neu fwy o deledu. Ma’r boi – sai’n cofio’i enw ond bydd y maint o jel ar ‘i wallt yn aros yn fy nghof am byth – yn gwerthu sgidie slip on. ‘Sdim lot gall neb weud ambyti slip ons yn fy marn i. Sgidie heb lasys ‘yn nhw a ‘na fe.

Beth bynnag, yn sydyn ma’n dechre trafod y berthynas rhwng gwaelod y trowser a thop yr esgid. Mae e moyn gwybod os yw trowseri plismyn yn fyrach er mwyn gneud e’n rhwyddach rhedeg ar ôl troseddwyr. Pam ma fe moyn gwybod? Mater preifat rhyngddo fe a’i seiciatrydd wedwn i. Ma fe’n beni da apêl at unrhyw blismon sy’n gwylio’r rhaglen i ffono mewn er mwyn datrys y dirgelwch. Ma’n teimlo’n gywir fel pennod o Crimewatch yn cal ‘i darlledu o siop sgidie.

Er bo fi moyn gwybod os o’s sail i’r theori bisâr hyn gofies i ar frys bo sbecyn o hunan-barch da fi ar ôl a bo fi ddim moyn neb ffindo fi’r bore wedyn di marw ar y soffa da’r teledu mla’n a rhyw dwpsyn yn clebran bwyti modrwye Diamonique neu gwresogyddion patio. Felly nos da i chi gyd, cysgwch yn dawel a plîs - peidwch cal hunllefe ambyti sgidie a throwseri plismyn.

Wedi gweud ‘ny fi’n credu dyle bod lle ar raglenni fel Pawb a’i Farn a Question Time ar gyfer y math ‘ma o testune trafodeth anghyffredin: beth fydde’ch enw hip hop, Helen Mary Jones? Pam nag yw UFOs yn glanio yn Gorseinon, Adam Price? Yw e’n wir, Felix Aubel, bod brechdane siap triongl yn blasu’n neisach na rhai sgwâr?

15.4.07

Lladrad Noeth

Oes gair Cymraeg am ‘chugger’, gwed? Yn ôl Tony, yr un peth yw e ym mhob iaith, sef “poen-yn-blydi-tîn-hippy-wasters.” Fi’n anghytuno. Fi’n lico chuggers. Fi’n lico’r smocs lliwgar, y gwenu dymunol a’r dull hyderus. Fi’n edmygu’r gobeth tragwyddol yn wyneb diffyg diddordeb cywilyddus y cyhoedd. Fi’n caru’r meistroleth diymdrech o egwyddorion allweddol sawl achos da, boed e’n siarad am blant amddifad ar ddydd Llun, morfilod ar drengi prynhawn dydd Mercher neu ymchwil cancer y fron ar fore Sadwrn. Fi’n ffan mawr ‘fyd o’r clipfyrdde twt, a’r faith bod ‘da nhw beiro wrth law. Ma’n rhoi shwt ddolir i mi groesi’r hewl i osgoi nhw.

Do’dd y ffaith bo Yvonne wedi ymuno â chuggerati Abertawe ddim yn ei hun yn newyddion syfrdanol; wedi’r cwbwl, ers iddi ddychwelyd o De America ma hi wedi malu awyr dydd a nos ambyti’r digoedwigo anghyfreithlon yng ngogledd Brasil a’r effaith ar dylwythe cynhenid yr ardal. Mwy o sioc o’dd y ffordd ffindes i mas ambyti’i swydd newydd. Na ble o’dd hi, yn loitran tu fas Marks Oxford Street (lle brynnes i wech par o sanne du a tei ‘Machine Washable Navy Square’), ‘da siopwyr yn trio eu gore i osgoi’r olwg filain bydde’n gneud i Medusa ailfeddwl ‘i gyrfa.

Nid brawd o’n i bellach ond 'sglyfeth ar waelod y gadwyn fwyd. Sylweddoles ar unwaith bydde’r esgusodion traddodiadol - (i) rhaid siarad cynta’ ‘da’r wraig; (ii) fi’n rhoi arian yn barod diolch yn fawr; (iii) ma’n flin ‘da fi ond sai’n becso dam ambyti plant amddifad/morfilod/cancer y fron - ddim yn gwitho. O’dd ei gwên greulon a buddugoliaethus yn awgrymu bo hi’n sylweddoli hyn ‘fyd. O’n i’n gwmws fel pysgodyn mawr twp yn gwingo ar ddiwedd llinyn.

Yna ddath hi mas â’i rhwyd. O’dd doi ddewis ‘da fi: (i) gwagu nghyfrif banc; (ii) marw mewn poen dirdynnol (feddylies i am drydydd dewis nithwr, sef newid fy enw a symud i Ganada, yn gwmws fel mae’r FBI yn gneud ‘da tystion mewn achosion llys yn erbyn y Mafia). “Faint ti moyn?” wedes i, tra’n esgus whilo am geinioge. “Bugger off! Sai moyn blincin shrapnel,” o’dd yr ateb. “Account number a sort code - na’r unig iaith fi’n siarad, reit? Fi am roi ti lawr am twenty quid. Y mis.”

D’odd y pysgodyn ‘ma ddim yn barod i roi’r ffidil yn y to. “Ugen punt y mis? Ti off dy ben!” Dechreues i gerdded bant. “Os na fi’n cal can punt y diwrnod, fi’n cal y sac,” medde’n ddistaw. “Os fi’n cal y sac, fi’n mynd yn grac. A pan fi’n grac, fel ti’n gwybod yn iawn, fi’n cymryd e gyd mas ar ti.” Stopes i’n stond; mewn llai ‘na 60 eiliad o’dd Yvonne wedi dal, diberfeddu a ffiledu pysgodyn cynta’r dydd. Record, weden i. Am ugen punt y mis fi’n credu bo fi’n haeddu o leia’ cerdyn post bob mis o’r blincin tylwythe cynhenid ‘ma.


Wrth gwrs, o’dd rhaid benthyca beiro iddi.

10.4.07

Ble o'ch Chi?

Ma pawb fod cofio ble o’n nhw ar adege a ddiffiniodd y cyfnod neu newidiodd hanes - llofruddieth Kennedy, marwoleth Diana, 9/11, lansio logo newydd S4/C. Mewn ugen mlynedd fyddai’n cofio’n gwmws ble o’n i pan ffonodd Tony i weud bod wejen ‘da fe: yn hopan ambyti’r stafell wely ar ôl sefyll ar blwg yr extension lead o’dd rywun esgeulus (sef fi) wedi gadel ar y llawr. Er bo fi rio’d wedi teimlo shwt boen yn fy myw, anghofes i ambyti fe’r eiliad wedodd Tony bod e ‘di cwrdd â merch a cwmpo mewn cariad ‘da hi - y wami dwbl, fel petai. Y cwestiwn amlwg wrth gwrs yw, odi hi wedi cwmpo mewn cariad ‘da fe? “So hi di gweud bod hi ddim,” medde’n flin. Nawr te, fi’n nabod y Tony Blin ond ma’r Tony Mewn Cariad yn endid cwbwl anghyfarwydd, fel un o unknown unknowns Donald Rumsfeld.

O ni’n cael peint yn y dafarn dros yr hewl pryd ddechreuodd Tony ddatgelu’r cwbwl. Hannah yw ei enw, yn 21 mlwydd oed ac yn gwitho mewn banc yn Nhreforys. Ma ‘da fe ffoto ohoni ‘fyd: blond, gwen pert, bach yn dew ond dim byd o'dd yn gweiddi ‘seico.’

‘Ma ble ma ‘ond’ arall yn crasho’r parti - ‘ond’ mawr meddw ‘da tatŵs yn whilo am ffeit: ma Tony yn 39 mewn wech wthnos ond ma’r twpsyn wedi gweud wrthi ‘i fod e’n 24. Yn sydyn fi moyn sefyll ar y blydi plwg ‘na ‘to. “Pam wedes ti ‘na?” Edrychodd i berfeddion ‘i ddiod. “Sai’n gwybod. Ddath e just…mas. O’n i rili rili moyn gweud 38 ond glywes i’r llais bach ‘ma’n gweud 24. Fi ddim moyn iddi feddwl bo fi’n over the hill. Be fi’n mynd i neud?”

Sawl peint yn ddiweddarach, ma Plan A, B ac C ‘da ni: Plan A – cyfadde’r cwbwl lot; Plan B: gweud bo nam ‘da fe ar ei leferydd a phan wedodd e 38 dath e mas fel 24; Plan C: cyfaddawd – gweud ‘i bod e’n 30 (hanner ffordd rhwng 21 a 39). Ma’n penderfynnu ffono hi – am unarddeg o'r gloch nos ac ar ôl wech peint o seidr - ond ma’n siarad â‘i pheiriant ateb. “Hiya cariad, fi yw e…ym…” Ma’n dishgwl arnai fel plentyn coll. “Plan A!” fi’n sibrwd. Ma fe’n nodio. "O’n i jyst moyn gweud bo…ym…Gandhi, y ffilm, wedi ennill 6 Oscar yn 1983 – y flwyddyn ges i ngeni. Sy’n gneud fi’n 24 fel wedes i o'r bla'n, ddim 38. Nos da.”

“Beth o’dd hwnna?” medde fi, yn brwydro codi ngheg o’r llawr. “Plan Ch.” medde fe. “Nawr te – un bach arall?”

(Newydd checo – 8 Oscar enillodd Gandhi, dim 6. Ond sai’n credu na’r rheswm iddi dympo fe...)

1.4.07

Ffŵl Ebrill

Wrth i fi ddod mas o’r archfarchnad bore 'ma pwy weles i ond Elfed ‘Giraff’ Robinson, bachan o’n i heb weld ers yr ysgol. O’dd e’n dal ac yn dene nôl pryd ‘ny; nawr o’dd e’n dew 'fyd, fel balwn, par o Doc Martens mawr du ar ei draed (ble arall?), yn amlwg yn credu bod skinny jeans yn syniad da.

Nawr yr hyn fi’n cofio ambwyty Giraff o’dd ei synnwyr digrifwch unigryw; o’dd e wastod yn gneud hwyl ar ben ‘i hunan achos ‘i fod e mor dal. Tapes i ‘i ysgwydd, yn dishgwl mlan at rannu joc a hel ambell i atgof ‘da fe. “Blydi hel Giraff,” wedes i, “ti’n bwyta i ddoi neu rhywbeth?”

Hyd yn oed cyn i fe droi rownd ges i’r teimlad ofnadw ‘ma yn fy stumog. O’n i’n gwybod yn syth na nid Giraff o’dd e, y Giraff ‘da synnwyr digrifwch unigryw, y Giraff o’dd wastod yn gneud hwyl ar ‘i ben ei hunan. Rhyw fachan ‘da wyneb tebyg ond ‘run pryd llawn tristwch a hunan-gasineb; bachan o’dd amlwg wedi diodde pob math o sarhad ers o’dd e’n grwt. “S-sori,” medde fi, yn ffrwtian ymddiheurad. “O’n i’n meddwl taw rhywun arall o’t ti.” “O ie?” medde fe. “Pwy yn gwmws? Rhyw ffati arall fel fi?” “Na na na,” wedes i, “do’dd Giraff ddim yn ffati, o’dd e’n dal. Na pam o’dd pawb yn galw fe Giraff. Achos o’dd e’n dal.”

“Wy’n gwybod bod giraffs yn dal – paid patroniso fi, reit?” O’dd e wedi dechre cynhyrfu. Edryches i o gwmpas y maes parco, yn trio cofio ble o’n i wedi rhoi’r car. “Mae’n flin iawn iawn da fi am ypseto ti,” wedes i. Edrychodd lawr arnai. “Pobol fel chi,” medde’n watwarus, “chi’n meddwl bo pobol dew yn dishgwl gwmws ‘run peth. Bydde ti ddim wedi gweud ‘na os bydde ni’n ddu.” “Ie, ond so ti yn ddu,” wedes i. “Ti’n dew.” Dath ddeigryn i’w lyged. “ Underactive thyroid yw e - hapus nawr?” A cherddodd e bant. Bydde Giraff wedi wherthin mas draw.

26.3.07

Touché...

Diwrnod bant heddi. Weles i Helen, fy nghyn-wraig (a wejen Dai ‘Iwsles’ Lewis). Dishgwl yn ffab (damo), ei chroen yn sgleino (damo damo), a newydd ddod nôl o Gaerdydd ble o’dd hi’n siopa ar gyfer rhyw barti swanc i WAGs rygbi nos Sadwrn (damo damo damo). “Ma Sarra Elgan yn pigo fi lan mewn stretch limo,” wedodd. “Wel, fi’n mynd gyda Tony ar noson speed dating,” wedes i, gan sylweddoli’n syth bo fawr o gymharieth rhyngo’r ddoi achlysur. “Ar gyfer elusen ma fe,” atebodd. “Ditto,” atebais. “UNICEF,” wedodd hi. “RSPCA Llansamlet,” wedes i. “Touché,” wedodd Helen, gyda chydig o wên, ac yna cherddodd bant, ei Manolo Bla-di-bla’s yn clician ar hyd y pafin. Owtsh…

20.3.07

Fy Ngolchdy Pert

Licen i ddiolch i’r unigolyn meddylgar o’dd wedi gadel hosan goch yn y peiriant golchi yn y Swansea Speed Queen Laundry nithwr. Ma nghryse gwyn Asda (3 for £10, ‘highly flammable’) nawr yn binc. Digwydd bo fi’n lico’r lliw pinc, yn enwedig golwg ‘boddwyd mewn candy floss’ y ddiweddar Dame Barbara Cartland. Mae pinc yn siwto rhai dynion: Tony Blair, Arnold Schwartzenegger, Ian Woosnam, a chyfrifwyr (am ryw reswm). Mae fe’n lliw sy’n gweud “shgylwch arna i, bois – so’ch innuendos homoffobig yn hala ofn arna i! Fi’n ŵr hyderus, llwyddiannus, cyhyrog. A fi’n lico shago merched, reit?”

Ond symo pinc yn siwto fi. Dwy flynedd yn ôl wisges i grys pinc i’r gwaith ac o fewn 10 munud o’dd hanner y swyddfa yn dynwared Mr Humphries o Are You Being Served? Es i gatre ‘da “I’m Free!” yn atseinio yn fy nghlustie. Bydde neb yn middi fflownso o gwmpas fel ‘ny o fla’n Dai Lewis, felly pam o flaen fi?

7.3.07

Mamma Mia

Mam yn sefyll da fi tra bod hi’n cal gneud ‘i stafell wely. Trwy’r wal fi’n clywed hi’n hala a derbyn negeseuon tecst gan ‘i sboner, Donald, sydd fel hi yn silver surfer. Nethon nhw gwrdd ar-lein chwe mis yn ôl; cyn-ddarlithydd coleg yw e yn byw tu fas i Lerpwl, tri o blant ‘da fe, un yn gneud gwaith danjerus yn Awstralia. Sa i di cwrdd â Donald ‘to achos fel arfer Mam sy’n sefyll ‘da fe. Yvonne yn gweud bod e’n dishgwl fel Anthony Hopkins tew.

Pan o’dd Dad yn sâl o’dd Mam yn hen o fla’n ‘i amser; Dwy flynedd ar ôl iddo fe farw, ma’n dishgwl 10 mlynedd yn iau. Ers ‘ny ma’n mynd mas yn amlach na fi, yn cal gwylie mwy egsotig, ac ar gyfer ei phenblwydd prynodd Donald gyfrifiadur iddi ‘da 2 GB o RAM. Does neb tu fas i NASA ‘da chyfrifiaduron mor bwerus â ‘ny. Y rheol yw dyw hen bobl ddim fod deall y we, ond ma ‘da Mam well dealltwrieth o’r rhyngrwyd na Bill Gates.

Withe licen i allu siarad ‘da ti, Mam, yn lle sgwennu’r blog ‘ma…

2.3.07

Mr Poblogaidd

Yn lle dathlu Gŵyl Dewi ma Tony yn cal parti i ‘ail-lansio’ ei safle MySpace. Gwesteion: Mam, Mam Tony, fi, a Jim, bachan ‘da llyged llechwraidd o’r fflat drws nesa o’dd ‘da mwy o ddiddordeb miwn casgliad CDs Tony a chynhwysion ‘i drwyn (un fe, nid un Tony) ‘nag o’dd e miwn y lap top. Lot o win, dim digon o greision.

Falle fi yw e ond ma’r safle’n dishgwl yn gywir yr un peth a’r un hen ond ‘da mwy o liwie llachar, graffeg annifyr a chyfeillion dychmygol. Yn lle’r llun o Tony Soprano ma fe ‘di dodi Borat ar y dudalen flan - 10 mas o 10 am fod mor wreiddiol. “Ma ‘da fi 449 o ffrindie nawr,” medde fe, “Yn cynnwys Lily Allen, Gruff Rhys, Beyoncé…” Hyd yma dyw Mam Tony heb weud dim ond wrth glywed enw’r gantores Americanaidd hudolus ma fe fel bod hi’n dihuno’n sydyn o goma dwfn. “O, ‘na ti ferch bert, a ma’n Gristion ‘fyd. Pam so ti’n galler ffeindio merch fel ‘na?” Tony yn cochi at ‘i glustie ac yn gweud rhywbeth am fynd i hôl mwy o nibls cyn diflannu miwn i’r gegin.

O’dd 'da fi un ffrind da ar-lein. Louis o’dd ‘i enw e, o Lydaw. O’n i wedi meddwl mynd bant ‘na i sefyll ‘da fe ond ddechreuodd e hala JPEGs anweddus o’i hun yn borcyn felly stopes i sgwennu. Trueni ‘fyd, achos fel fi o’dd e’n ffan mowr o Meic Stevens.

16.2.07

¡Viva la revolución!

Fory yw penblwydd nwhar Yvonne. Sa i’n dishgwl mhlan, i fod yn onest. Yn ei harddege a’i hugeinie o’dd hi fel mini-Charlotte Church heb y llais na’r banc balans: mas bob nos, ifed gormod, smygu fel shimle, cwympo ar yr hewl. O’dd hi’n joio bywyd, joio binjo, yn gwmws fel milodd o gynorthwywyr deintyddol ifanc erill ledled y wlad. Nawr, ma hi’n… ym, wel, wy’n credu tröedigaeth yw’r unig air sy’n addas. Ath Yvonne ar wylie i Frasil tair blynedd yn ôl ond dath rhywun yn ôl o’dd yn dishgwl fel Yvonne ond yn swno fel Fidel Castro. Wedi gweld y byd fel ma fe go iawn o’dd hi, ma’n debyg: y tlodi a’r anghyfiawnder yn cwato tu ôl holl firi’r Carnival a’r traethe hir, euraidd. Whare teg iddi, weden i.

Er ‘ny ma dal ‘da ddi’r ddawn o fynd dros ben llestri. Bydde Germaine Greer yn ‘i chofleidio fel chwar ond o fewn 10 eiliad bydde’r ddoi ar lawr yn sgrapo wynebe ’i gilydd ar ôl cwympo mas dros y pwynt gwleidyddol lleia’. Wrth gwrs mae’n anghytuno ‘da popeth wy’n gweud, a fi’n rhoi digon o gyfle iddi ‘fyd. Achos bo fi’n joio weindo’i lan? Fi? Digon o raff - na beth ma nhw’n gweud, yndife?

5.2.07

Iwsles bai nêm...

Ffonodd Tony llawn direidi i weud bod Dai 'Iwsles' Lewis (sboner newydd Helen fy nghyn-wraig) ar y bocs yn siarad ambyti gêm Cymru-Iwerddon. Fi’n defnyddio ‘siarad’ yn fras; o’dd e fel bod Dai wedi penderfynu dadansoddi chwaraeon hollol wahanol mewn iaith estron ar blaned biliyne o flynydde goleuni bant o gysawd ein haul ni. O’dd rhaid i fi whilo’r cyfraniad echrydus hyn at hanes teledu wrth gwato fel plentyn tu cefn y soffa yn ystod pennod o Doctor Who.

Falle camdreuliad o’dd e o’r kebab ges i i de ond am nano-eiliad deimles i bigiad o gydymdeimlad dros yr hen Dai. Odi, ma’n iach ac yn ennill cyflog da iawn ond ma’ fe’n 31, sdim cymhwystere academaidd na sgilie arall amlwg ‘da fe ac ma ’i yrfa ddifflach yn dod i ben. Na, y kebab o’dd e wedi’r cwbwl. Shwt yn gwmws ma rhywun yn dilyn y math ‘ny o harakiri proffesiynol yn fyw o flaen yr holl genedl? A shwt ar y ddaear ffeiles i dapo fe? Croesi bysedd bydd clip ar You Tube fory…

3.2.07

6 Gwlad, 1 Gêm

Fi'n gwybod bod e'n heresi i weud hyn heddi ond wy’n casáu rygbi. Deg ar hugen o ddynion dyle gwybod yn well yn hela wy. A cyn i chi weud unrhyw beth dyw’r ffaith bod H yn mynd mas ‘da Iwsles dim i wneud da’r peth. Ers Tachwedd ’84 ma rygbi wedi bod yn Rhif 1 ar fy Rhestr o Gasbethe; crwt 12 mlwydd oed o’n i, yn rhynnu yn y glasrew ‘da Darryl King “Kong” (Bwystfil Blwyddyn 3) yn dod amdana i fel trên wedi rhedeg bant. Pam fi? Do’n i heb gyffwrdd â’r bêl trwy gydol y prynhawn. Na fe chwaith, y jiawl.

A ble ma Darryl King nawr, tybed? Pego? Jael? O na. B&Q Castell Nedd, ‘na ble ma fe nawr. Fel rheolwr y blincin lle, ‘da Land Rover Discovery a doi o blant. Ffindes i mas heddi, diolch yn fawr iawn, Tony. Ble ma Herr Doctor Schadenfreude pan ma rhywun angen top up?


4.1.07

Blwyddyn Newydd Dda de!

Hanner staff yr Adran Gwynion dal bant ‘rôl y Flwyddyn Newydd felly o’dd rhaid i mi dderbyn galwade. Un boi o rywle yn y Gogledd yn credu mod i’n gwitho mewn canolfan alw tu fas i Calcutta. Ath e mla’n ambyti’r ffaith bod e’n haws “talu cyflog dwy a dima i bobol fel chdi na mae i gefnogi gweithiwrs gonast yn ein gwlad ein hunan!” Pan ofynnodd e ble yn gwmws o’dd Gorseinon (fe ddyfalodd e Fietnam y tro cyntaf) wedes i mai jyst tu fas i Rangoon o’dd e, ar yr hewl i Mandalay. “O’n i’n ama!” wedodd e, cyn mynd mla’n a mla’n am dri chwarter awr ambyti ei beiriant golchi blydi llestri.