23.5.07

Ôl Abord

Pan ddechreues i witho da’r Satan Mawr o’dd y siwrne i’r ganolfan alw yn un weddol hwylus. O’dd car da fi pryd ‘ny: Fiat Uno rhytgoch o’dd e, bocs matsys da peder olwyn o’dd fel oergell yn y gaeaf a ffwrn yn yr haf. O’dd y radio gyntefig yn pigo lan Atlantic 252 ond dim byd arall, o’dd nam ar y peiriant casét yn gneud i bopeth swno fel Pinky a Perky, o'dd y seddi'n drewi o betrol ac o’dd amheuon cryf da fi bod rhywbeth - neu rywun - wedi marw yn y gist. Heb law am ‘ny o’dd e’n, ym, wel, car fi o’dd e, reit? Bydde Jeremy Clarkson wedi wherthin am ei ben ond sai’n lico Jeremy Clarkson felly fi’n credu bod ni’n gyfartal.

Ond wrth gwrs dath y diwrnod anochel ‘na pan ffaelodd y car ei brawf MOT. Ar ôl ‘ny do’dd dim dewis da fi ond i fynd i’r gwaith ar y bws. Sai’n bod yn snoblyd ond fi ddim yn ffan o gludiant cyhoeddus. Ma’n hela fi meddwl am deyrnasiad braw Lyndon Russell a Ceri Oliver ar y bws ysgol.

Anifeilied gwyllt Blwyddyn 4 o’dd Lyndon a Ceri. Yn ogystal â rhannu un gell ymennydd o’dd gryn ddiddordeb ‘da nhw miwn crefft ymladd ond ddim y gallu na’r rhychwant sylw i’w meistroli. Bydde siwrne arferol yn cynnwys amryw o symudiade Bruce Lee-aidd lletchwith ‘da ambell i karate chop arswydus o ddanjerus ar gan diod rhyw grwt diniwed o Flwyddyn 2 - tra bod e’n dal i ifed mas ohono fe. Y peth dwetha clywes i o’dd fod y ddoi wedi ymuno â’r fyddin. Rhaid gweud dyw hyn ddim yn argoeli’n arbennig o dda ar gyfer ein record hawlie dynol yn Irac ac Affganistan.

Jiawch! Ma’n hanner ‘di tri o’r gloch bore! Mwy am fysus fory.

1 comment:

Rhys Wynne said...

edrych ymlaen i glywed am dy deithiau bws di. :-)