7.3.07

Mamma Mia

Mam yn sefyll da fi tra bod hi’n cal gneud ‘i stafell wely. Trwy’r wal fi’n clywed hi’n hala a derbyn negeseuon tecst gan ‘i sboner, Donald, sydd fel hi yn silver surfer. Nethon nhw gwrdd ar-lein chwe mis yn ôl; cyn-ddarlithydd coleg yw e yn byw tu fas i Lerpwl, tri o blant ‘da fe, un yn gneud gwaith danjerus yn Awstralia. Sa i di cwrdd â Donald ‘to achos fel arfer Mam sy’n sefyll ‘da fe. Yvonne yn gweud bod e’n dishgwl fel Anthony Hopkins tew.

Pan o’dd Dad yn sâl o’dd Mam yn hen o fla’n ‘i amser; Dwy flynedd ar ôl iddo fe farw, ma’n dishgwl 10 mlynedd yn iau. Ers ‘ny ma’n mynd mas yn amlach na fi, yn cal gwylie mwy egsotig, ac ar gyfer ei phenblwydd prynodd Donald gyfrifiadur iddi ‘da 2 GB o RAM. Does neb tu fas i NASA ‘da chyfrifiaduron mor bwerus â ‘ny. Y rheol yw dyw hen bobl ddim fod deall y we, ond ma ‘da Mam well dealltwrieth o’r rhyngrwyd na Bill Gates.

Withe licen i allu siarad ‘da ti, Mam, yn lle sgwennu’r blog ‘ma…

1 comment:

Anonymous said...

Falle bydde fe'n neud lles i ti i gymryd tudalen mas o lyfr dy fam...
O leia ma' hi'n cadw'n brysur yn y 'stafell wely!