9.11.06

Syr Roy ap Bentley y Bos

Ma prawf gramadeg ‘da Roy heno ar ei gwrs gloywi iaith. Mae e wedi ffurfio perthynas annaturiol o agos gyda Geiriadur yr Academi yn ddiweddar, o hyd yn taflu ‘Bruce-ion’ mewn i’w sgwrs, geire bydde neb call yn eu defnyddio yn gyhoeddus. O’n i yn ei swyddfa y diwrnod o’r blan yn mynd trwy’r stats wthnosol pan wedodd e “Pa un sydd well gennych, Gareth - ffrwchnedd neu spigoglys?” Bydde swper chez Roy yn antur; rhaid cofio gweud bo fi’n golchi ngwallt y noson ‘ny.