10.4.07

Ble o'ch Chi?

Ma pawb fod cofio ble o’n nhw ar adege a ddiffiniodd y cyfnod neu newidiodd hanes - llofruddieth Kennedy, marwoleth Diana, 9/11, lansio logo newydd S4/C. Mewn ugen mlynedd fyddai’n cofio’n gwmws ble o’n i pan ffonodd Tony i weud bod wejen ‘da fe: yn hopan ambyti’r stafell wely ar ôl sefyll ar blwg yr extension lead o’dd rywun esgeulus (sef fi) wedi gadel ar y llawr. Er bo fi rio’d wedi teimlo shwt boen yn fy myw, anghofes i ambyti fe’r eiliad wedodd Tony bod e ‘di cwrdd â merch a cwmpo mewn cariad ‘da hi - y wami dwbl, fel petai. Y cwestiwn amlwg wrth gwrs yw, odi hi wedi cwmpo mewn cariad ‘da fe? “So hi di gweud bod hi ddim,” medde’n flin. Nawr te, fi’n nabod y Tony Blin ond ma’r Tony Mewn Cariad yn endid cwbwl anghyfarwydd, fel un o unknown unknowns Donald Rumsfeld.

O ni’n cael peint yn y dafarn dros yr hewl pryd ddechreuodd Tony ddatgelu’r cwbwl. Hannah yw ei enw, yn 21 mlwydd oed ac yn gwitho mewn banc yn Nhreforys. Ma ‘da fe ffoto ohoni ‘fyd: blond, gwen pert, bach yn dew ond dim byd o'dd yn gweiddi ‘seico.’

‘Ma ble ma ‘ond’ arall yn crasho’r parti - ‘ond’ mawr meddw ‘da tatŵs yn whilo am ffeit: ma Tony yn 39 mewn wech wthnos ond ma’r twpsyn wedi gweud wrthi ‘i fod e’n 24. Yn sydyn fi moyn sefyll ar y blydi plwg ‘na ‘to. “Pam wedes ti ‘na?” Edrychodd i berfeddion ‘i ddiod. “Sai’n gwybod. Ddath e just…mas. O’n i rili rili moyn gweud 38 ond glywes i’r llais bach ‘ma’n gweud 24. Fi ddim moyn iddi feddwl bo fi’n over the hill. Be fi’n mynd i neud?”

Sawl peint yn ddiweddarach, ma Plan A, B ac C ‘da ni: Plan A – cyfadde’r cwbwl lot; Plan B: gweud bo nam ‘da fe ar ei leferydd a phan wedodd e 38 dath e mas fel 24; Plan C: cyfaddawd – gweud ‘i bod e’n 30 (hanner ffordd rhwng 21 a 39). Ma’n penderfynnu ffono hi – am unarddeg o'r gloch nos ac ar ôl wech peint o seidr - ond ma’n siarad â‘i pheiriant ateb. “Hiya cariad, fi yw e…ym…” Ma’n dishgwl arnai fel plentyn coll. “Plan A!” fi’n sibrwd. Ma fe’n nodio. "O’n i jyst moyn gweud bo…ym…Gandhi, y ffilm, wedi ennill 6 Oscar yn 1983 – y flwyddyn ges i ngeni. Sy’n gneud fi’n 24 fel wedes i o'r bla'n, ddim 38. Nos da.”

“Beth o’dd hwnna?” medde fi, yn brwydro codi ngheg o’r llawr. “Plan Ch.” medde fe. “Nawr te – un bach arall?”

(Newydd checo – 8 Oscar enillodd Gandhi, dim 6. Ond sai’n credu na’r rheswm iddi dympo fe...)

1 comment:

Anonymous said...

Pwr dab Tony. Mae'n od y busnes 'na am haneru'n wahaniaeth yn yr oedran. Pan oeddwn i'n 25 fe es i mas gyda merch bert o'r Iseldiroedd a oedd yn 33 oed. Dywedais i wrth fy mets ei bod hi'n 29 oed : ffeindies i mas wedyn bod hi wedi dweud wrth ei mets hithau bod fi'n 29.