2.3.07

Mr Poblogaidd

Yn lle dathlu Gŵyl Dewi ma Tony yn cal parti i ‘ail-lansio’ ei safle MySpace. Gwesteion: Mam, Mam Tony, fi, a Jim, bachan ‘da llyged llechwraidd o’r fflat drws nesa o’dd ‘da mwy o ddiddordeb miwn casgliad CDs Tony a chynhwysion ‘i drwyn (un fe, nid un Tony) ‘nag o’dd e miwn y lap top. Lot o win, dim digon o greision.

Falle fi yw e ond ma’r safle’n dishgwl yn gywir yr un peth a’r un hen ond ‘da mwy o liwie llachar, graffeg annifyr a chyfeillion dychmygol. Yn lle’r llun o Tony Soprano ma fe ‘di dodi Borat ar y dudalen flan - 10 mas o 10 am fod mor wreiddiol. “Ma ‘da fi 449 o ffrindie nawr,” medde fe, “Yn cynnwys Lily Allen, Gruff Rhys, Beyoncé…” Hyd yma dyw Mam Tony heb weud dim ond wrth glywed enw’r gantores Americanaidd hudolus ma fe fel bod hi’n dihuno’n sydyn o goma dwfn. “O, ‘na ti ferch bert, a ma’n Gristion ‘fyd. Pam so ti’n galler ffeindio merch fel ‘na?” Tony yn cochi at ‘i glustie ac yn gweud rhywbeth am fynd i hôl mwy o nibls cyn diflannu miwn i’r gegin.

O’dd 'da fi un ffrind da ar-lein. Louis o’dd ‘i enw e, o Lydaw. O’n i wedi meddwl mynd bant ‘na i sefyll ‘da fe ond ddechreuodd e hala JPEGs anweddus o’i hun yn borcyn felly stopes i sgwennu. Trueni ‘fyd, achos fel fi o’dd e’n ffan mowr o Meic Stevens.

2 comments:

Anonymous said...

diolch yn fawr am y cefnogeth G... nawr fi'n rili gwybod pwy syn ffrindie fi?? o'n in credu bod e'n lywddiant mowr a ma Jim yn achan ffein achos fe yw ffrind number 450 er bo'r pigo trwyn yn cal ar nerves fi!
Sawl ffrind sy da ti???

Loser!!! T

PS Peint nos fory??

Anonymous said...

PS arall www.myspace.com/tonysexmachine - check it out merched!!