20.3.07

Fy Ngolchdy Pert

Licen i ddiolch i’r unigolyn meddylgar o’dd wedi gadel hosan goch yn y peiriant golchi yn y Swansea Speed Queen Laundry nithwr. Ma nghryse gwyn Asda (3 for £10, ‘highly flammable’) nawr yn binc. Digwydd bo fi’n lico’r lliw pinc, yn enwedig golwg ‘boddwyd mewn candy floss’ y ddiweddar Dame Barbara Cartland. Mae pinc yn siwto rhai dynion: Tony Blair, Arnold Schwartzenegger, Ian Woosnam, a chyfrifwyr (am ryw reswm). Mae fe’n lliw sy’n gweud “shgylwch arna i, bois – so’ch innuendos homoffobig yn hala ofn arna i! Fi’n ŵr hyderus, llwyddiannus, cyhyrog. A fi’n lico shago merched, reit?”

Ond symo pinc yn siwto fi. Dwy flynedd yn ôl wisges i grys pinc i’r gwaith ac o fewn 10 munud o’dd hanner y swyddfa yn dynwared Mr Humphries o Are You Being Served? Es i gatre ‘da “I’m Free!” yn atseinio yn fy nghlustie. Bydde neb yn middi fflownso o gwmpas fel ‘ny o fla’n Dai Lewis, felly pam o flaen fi?

2 comments:

Anonymous said...

O na! Rhaid i fi ddweud - dwi' di neud 'na o'r blaen! A'r unig ffordd i ddelio a'r graith seicolegol yma (yn 'y marn i) yw i grwydro strydoedd Abertawe gan gadw llygad barcud am rywun sy'n gwisgo gwen fach gyfrwys ac un hosan goch...

Anonymous said...

Rwy'n gwybod nad wyt ti'n hoff o dy rygbi, felly efallai nid wyt ti'n gwybod bod tim Stade Francaise yn chwarae mewn crysiau pinc llachar, megis fflamingo. Ac ie, mae eu cefnogwyr yn troi lan i'r gemau yn gwisgo pinc. Ond eto, maen nhw'n Ffrancwyr, felly maen nhw'n cael get-away gyda'r fath beth - allet ti ddim ddychmygu tim Cwmtwrch yn gwisgo pinc.