15.4.07

Lladrad Noeth

Oes gair Cymraeg am ‘chugger’, gwed? Yn ôl Tony, yr un peth yw e ym mhob iaith, sef “poen-yn-blydi-tîn-hippy-wasters.” Fi’n anghytuno. Fi’n lico chuggers. Fi’n lico’r smocs lliwgar, y gwenu dymunol a’r dull hyderus. Fi’n edmygu’r gobeth tragwyddol yn wyneb diffyg diddordeb cywilyddus y cyhoedd. Fi’n caru’r meistroleth diymdrech o egwyddorion allweddol sawl achos da, boed e’n siarad am blant amddifad ar ddydd Llun, morfilod ar drengi prynhawn dydd Mercher neu ymchwil cancer y fron ar fore Sadwrn. Fi’n ffan mawr ‘fyd o’r clipfyrdde twt, a’r faith bod ‘da nhw beiro wrth law. Ma’n rhoi shwt ddolir i mi groesi’r hewl i osgoi nhw.

Do’dd y ffaith bo Yvonne wedi ymuno â chuggerati Abertawe ddim yn ei hun yn newyddion syfrdanol; wedi’r cwbwl, ers iddi ddychwelyd o De America ma hi wedi malu awyr dydd a nos ambyti’r digoedwigo anghyfreithlon yng ngogledd Brasil a’r effaith ar dylwythe cynhenid yr ardal. Mwy o sioc o’dd y ffordd ffindes i mas ambyti’i swydd newydd. Na ble o’dd hi, yn loitran tu fas Marks Oxford Street (lle brynnes i wech par o sanne du a tei ‘Machine Washable Navy Square’), ‘da siopwyr yn trio eu gore i osgoi’r olwg filain bydde’n gneud i Medusa ailfeddwl ‘i gyrfa.

Nid brawd o’n i bellach ond 'sglyfeth ar waelod y gadwyn fwyd. Sylweddoles ar unwaith bydde’r esgusodion traddodiadol - (i) rhaid siarad cynta’ ‘da’r wraig; (ii) fi’n rhoi arian yn barod diolch yn fawr; (iii) ma’n flin ‘da fi ond sai’n becso dam ambyti plant amddifad/morfilod/cancer y fron - ddim yn gwitho. O’dd ei gwên greulon a buddugoliaethus yn awgrymu bo hi’n sylweddoli hyn ‘fyd. O’n i’n gwmws fel pysgodyn mawr twp yn gwingo ar ddiwedd llinyn.

Yna ddath hi mas â’i rhwyd. O’dd doi ddewis ‘da fi: (i) gwagu nghyfrif banc; (ii) marw mewn poen dirdynnol (feddylies i am drydydd dewis nithwr, sef newid fy enw a symud i Ganada, yn gwmws fel mae’r FBI yn gneud ‘da tystion mewn achosion llys yn erbyn y Mafia). “Faint ti moyn?” wedes i, tra’n esgus whilo am geinioge. “Bugger off! Sai moyn blincin shrapnel,” o’dd yr ateb. “Account number a sort code - na’r unig iaith fi’n siarad, reit? Fi am roi ti lawr am twenty quid. Y mis.”

D’odd y pysgodyn ‘ma ddim yn barod i roi’r ffidil yn y to. “Ugen punt y mis? Ti off dy ben!” Dechreues i gerdded bant. “Os na fi’n cal can punt y diwrnod, fi’n cal y sac,” medde’n ddistaw. “Os fi’n cal y sac, fi’n mynd yn grac. A pan fi’n grac, fel ti’n gwybod yn iawn, fi’n cymryd e gyd mas ar ti.” Stopes i’n stond; mewn llai ‘na 60 eiliad o’dd Yvonne wedi dal, diberfeddu a ffiledu pysgodyn cynta’r dydd. Record, weden i. Am ugen punt y mis fi’n credu bo fi’n haeddu o leia’ cerdyn post bob mis o’r blincin tylwythe cynhenid ‘ma.


Wrth gwrs, o’dd rhaid benthyca beiro iddi.

No comments: