3.2.07

6 Gwlad, 1 Gêm

Fi'n gwybod bod e'n heresi i weud hyn heddi ond wy’n casáu rygbi. Deg ar hugen o ddynion dyle gwybod yn well yn hela wy. A cyn i chi weud unrhyw beth dyw’r ffaith bod H yn mynd mas ‘da Iwsles dim i wneud da’r peth. Ers Tachwedd ’84 ma rygbi wedi bod yn Rhif 1 ar fy Rhestr o Gasbethe; crwt 12 mlwydd oed o’n i, yn rhynnu yn y glasrew ‘da Darryl King “Kong” (Bwystfil Blwyddyn 3) yn dod amdana i fel trên wedi rhedeg bant. Pam fi? Do’n i heb gyffwrdd â’r bêl trwy gydol y prynhawn. Na fe chwaith, y jiawl.

A ble ma Darryl King nawr, tybed? Pego? Jael? O na. B&Q Castell Nedd, ‘na ble ma fe nawr. Fel rheolwr y blincin lle, ‘da Land Rover Discovery a doi o blant. Ffindes i mas heddi, diolch yn fawr iawn, Tony. Ble ma Herr Doctor Schadenfreude pan ma rhywun angen top up?


1 comment:

Nic said...

Croeso i glwb Blogwyr CYmraeg Sy Ddim yn Lico Rygbi. Mae mwy ohonon ni na fyddet ti'n meddwl.