19.4.07

Coes Hir y Gyfraith

Anghofiwch ambyti newid yn yr hinsawdd a’r sefyllfa erchyll yn Irac. Y pwnc llosg heddi yw hyd trowseri plismyn: odyn nhw’n fyrach na’r hyd cyfartalog cenedlaethol?

Ma’n chwarter wedi hanner nos. Fi di bod yn gwylio un o’r sianeli siopa hyn ac er bo fi’n rhyfeddu ar allu’r cyflwynwyr i falu awyr am orie ambyti popeth dan haul ma nhw ambell waith yn mynd ar ôl ysgyfarnog wrth geisio llenwi awr neu fwy o deledu. Ma’r boi – sai’n cofio’i enw ond bydd y maint o jel ar ‘i wallt yn aros yn fy nghof am byth – yn gwerthu sgidie slip on. ‘Sdim lot gall neb weud ambyti slip ons yn fy marn i. Sgidie heb lasys ‘yn nhw a ‘na fe.

Beth bynnag, yn sydyn ma’n dechre trafod y berthynas rhwng gwaelod y trowser a thop yr esgid. Mae e moyn gwybod os yw trowseri plismyn yn fyrach er mwyn gneud e’n rhwyddach rhedeg ar ôl troseddwyr. Pam ma fe moyn gwybod? Mater preifat rhyngddo fe a’i seiciatrydd wedwn i. Ma fe’n beni da apêl at unrhyw blismon sy’n gwylio’r rhaglen i ffono mewn er mwyn datrys y dirgelwch. Ma’n teimlo’n gywir fel pennod o Crimewatch yn cal ‘i darlledu o siop sgidie.

Er bo fi moyn gwybod os o’s sail i’r theori bisâr hyn gofies i ar frys bo sbecyn o hunan-barch da fi ar ôl a bo fi ddim moyn neb ffindo fi’r bore wedyn di marw ar y soffa da’r teledu mla’n a rhyw dwpsyn yn clebran bwyti modrwye Diamonique neu gwresogyddion patio. Felly nos da i chi gyd, cysgwch yn dawel a plîs - peidwch cal hunllefe ambyti sgidie a throwseri plismyn.

Wedi gweud ‘ny fi’n credu dyle bod lle ar raglenni fel Pawb a’i Farn a Question Time ar gyfer y math ‘ma o testune trafodeth anghyffredin: beth fydde’ch enw hip hop, Helen Mary Jones? Pam nag yw UFOs yn glanio yn Gorseinon, Adam Price? Yw e’n wir, Felix Aubel, bod brechdane siap triongl yn blasu’n neisach na rhai sgwâr?

15.4.07

Lladrad Noeth

Oes gair Cymraeg am ‘chugger’, gwed? Yn ôl Tony, yr un peth yw e ym mhob iaith, sef “poen-yn-blydi-tîn-hippy-wasters.” Fi’n anghytuno. Fi’n lico chuggers. Fi’n lico’r smocs lliwgar, y gwenu dymunol a’r dull hyderus. Fi’n edmygu’r gobeth tragwyddol yn wyneb diffyg diddordeb cywilyddus y cyhoedd. Fi’n caru’r meistroleth diymdrech o egwyddorion allweddol sawl achos da, boed e’n siarad am blant amddifad ar ddydd Llun, morfilod ar drengi prynhawn dydd Mercher neu ymchwil cancer y fron ar fore Sadwrn. Fi’n ffan mawr ‘fyd o’r clipfyrdde twt, a’r faith bod ‘da nhw beiro wrth law. Ma’n rhoi shwt ddolir i mi groesi’r hewl i osgoi nhw.

Do’dd y ffaith bo Yvonne wedi ymuno â chuggerati Abertawe ddim yn ei hun yn newyddion syfrdanol; wedi’r cwbwl, ers iddi ddychwelyd o De America ma hi wedi malu awyr dydd a nos ambyti’r digoedwigo anghyfreithlon yng ngogledd Brasil a’r effaith ar dylwythe cynhenid yr ardal. Mwy o sioc o’dd y ffordd ffindes i mas ambyti’i swydd newydd. Na ble o’dd hi, yn loitran tu fas Marks Oxford Street (lle brynnes i wech par o sanne du a tei ‘Machine Washable Navy Square’), ‘da siopwyr yn trio eu gore i osgoi’r olwg filain bydde’n gneud i Medusa ailfeddwl ‘i gyrfa.

Nid brawd o’n i bellach ond 'sglyfeth ar waelod y gadwyn fwyd. Sylweddoles ar unwaith bydde’r esgusodion traddodiadol - (i) rhaid siarad cynta’ ‘da’r wraig; (ii) fi’n rhoi arian yn barod diolch yn fawr; (iii) ma’n flin ‘da fi ond sai’n becso dam ambyti plant amddifad/morfilod/cancer y fron - ddim yn gwitho. O’dd ei gwên greulon a buddugoliaethus yn awgrymu bo hi’n sylweddoli hyn ‘fyd. O’n i’n gwmws fel pysgodyn mawr twp yn gwingo ar ddiwedd llinyn.

Yna ddath hi mas â’i rhwyd. O’dd doi ddewis ‘da fi: (i) gwagu nghyfrif banc; (ii) marw mewn poen dirdynnol (feddylies i am drydydd dewis nithwr, sef newid fy enw a symud i Ganada, yn gwmws fel mae’r FBI yn gneud ‘da tystion mewn achosion llys yn erbyn y Mafia). “Faint ti moyn?” wedes i, tra’n esgus whilo am geinioge. “Bugger off! Sai moyn blincin shrapnel,” o’dd yr ateb. “Account number a sort code - na’r unig iaith fi’n siarad, reit? Fi am roi ti lawr am twenty quid. Y mis.”

D’odd y pysgodyn ‘ma ddim yn barod i roi’r ffidil yn y to. “Ugen punt y mis? Ti off dy ben!” Dechreues i gerdded bant. “Os na fi’n cal can punt y diwrnod, fi’n cal y sac,” medde’n ddistaw. “Os fi’n cal y sac, fi’n mynd yn grac. A pan fi’n grac, fel ti’n gwybod yn iawn, fi’n cymryd e gyd mas ar ti.” Stopes i’n stond; mewn llai ‘na 60 eiliad o’dd Yvonne wedi dal, diberfeddu a ffiledu pysgodyn cynta’r dydd. Record, weden i. Am ugen punt y mis fi’n credu bo fi’n haeddu o leia’ cerdyn post bob mis o’r blincin tylwythe cynhenid ‘ma.


Wrth gwrs, o’dd rhaid benthyca beiro iddi.

10.4.07

Ble o'ch Chi?

Ma pawb fod cofio ble o’n nhw ar adege a ddiffiniodd y cyfnod neu newidiodd hanes - llofruddieth Kennedy, marwoleth Diana, 9/11, lansio logo newydd S4/C. Mewn ugen mlynedd fyddai’n cofio’n gwmws ble o’n i pan ffonodd Tony i weud bod wejen ‘da fe: yn hopan ambyti’r stafell wely ar ôl sefyll ar blwg yr extension lead o’dd rywun esgeulus (sef fi) wedi gadel ar y llawr. Er bo fi rio’d wedi teimlo shwt boen yn fy myw, anghofes i ambyti fe’r eiliad wedodd Tony bod e ‘di cwrdd â merch a cwmpo mewn cariad ‘da hi - y wami dwbl, fel petai. Y cwestiwn amlwg wrth gwrs yw, odi hi wedi cwmpo mewn cariad ‘da fe? “So hi di gweud bod hi ddim,” medde’n flin. Nawr te, fi’n nabod y Tony Blin ond ma’r Tony Mewn Cariad yn endid cwbwl anghyfarwydd, fel un o unknown unknowns Donald Rumsfeld.

O ni’n cael peint yn y dafarn dros yr hewl pryd ddechreuodd Tony ddatgelu’r cwbwl. Hannah yw ei enw, yn 21 mlwydd oed ac yn gwitho mewn banc yn Nhreforys. Ma ‘da fe ffoto ohoni ‘fyd: blond, gwen pert, bach yn dew ond dim byd o'dd yn gweiddi ‘seico.’

‘Ma ble ma ‘ond’ arall yn crasho’r parti - ‘ond’ mawr meddw ‘da tatŵs yn whilo am ffeit: ma Tony yn 39 mewn wech wthnos ond ma’r twpsyn wedi gweud wrthi ‘i fod e’n 24. Yn sydyn fi moyn sefyll ar y blydi plwg ‘na ‘to. “Pam wedes ti ‘na?” Edrychodd i berfeddion ‘i ddiod. “Sai’n gwybod. Ddath e just…mas. O’n i rili rili moyn gweud 38 ond glywes i’r llais bach ‘ma’n gweud 24. Fi ddim moyn iddi feddwl bo fi’n over the hill. Be fi’n mynd i neud?”

Sawl peint yn ddiweddarach, ma Plan A, B ac C ‘da ni: Plan A – cyfadde’r cwbwl lot; Plan B: gweud bo nam ‘da fe ar ei leferydd a phan wedodd e 38 dath e mas fel 24; Plan C: cyfaddawd – gweud ‘i bod e’n 30 (hanner ffordd rhwng 21 a 39). Ma’n penderfynnu ffono hi – am unarddeg o'r gloch nos ac ar ôl wech peint o seidr - ond ma’n siarad â‘i pheiriant ateb. “Hiya cariad, fi yw e…ym…” Ma’n dishgwl arnai fel plentyn coll. “Plan A!” fi’n sibrwd. Ma fe’n nodio. "O’n i jyst moyn gweud bo…ym…Gandhi, y ffilm, wedi ennill 6 Oscar yn 1983 – y flwyddyn ges i ngeni. Sy’n gneud fi’n 24 fel wedes i o'r bla'n, ddim 38. Nos da.”

“Beth o’dd hwnna?” medde fi, yn brwydro codi ngheg o’r llawr. “Plan Ch.” medde fe. “Nawr te – un bach arall?”

(Newydd checo – 8 Oscar enillodd Gandhi, dim 6. Ond sai’n credu na’r rheswm iddi dympo fe...)

1.4.07

Ffŵl Ebrill

Wrth i fi ddod mas o’r archfarchnad bore 'ma pwy weles i ond Elfed ‘Giraff’ Robinson, bachan o’n i heb weld ers yr ysgol. O’dd e’n dal ac yn dene nôl pryd ‘ny; nawr o’dd e’n dew 'fyd, fel balwn, par o Doc Martens mawr du ar ei draed (ble arall?), yn amlwg yn credu bod skinny jeans yn syniad da.

Nawr yr hyn fi’n cofio ambwyty Giraff o’dd ei synnwyr digrifwch unigryw; o’dd e wastod yn gneud hwyl ar ben ‘i hunan achos ‘i fod e mor dal. Tapes i ‘i ysgwydd, yn dishgwl mlan at rannu joc a hel ambell i atgof ‘da fe. “Blydi hel Giraff,” wedes i, “ti’n bwyta i ddoi neu rhywbeth?”

Hyd yn oed cyn i fe droi rownd ges i’r teimlad ofnadw ‘ma yn fy stumog. O’n i’n gwybod yn syth na nid Giraff o’dd e, y Giraff ‘da synnwyr digrifwch unigryw, y Giraff o’dd wastod yn gneud hwyl ar ‘i ben ei hunan. Rhyw fachan ‘da wyneb tebyg ond ‘run pryd llawn tristwch a hunan-gasineb; bachan o’dd amlwg wedi diodde pob math o sarhad ers o’dd e’n grwt. “S-sori,” medde fi, yn ffrwtian ymddiheurad. “O’n i’n meddwl taw rhywun arall o’t ti.” “O ie?” medde fe. “Pwy yn gwmws? Rhyw ffati arall fel fi?” “Na na na,” wedes i, “do’dd Giraff ddim yn ffati, o’dd e’n dal. Na pam o’dd pawb yn galw fe Giraff. Achos o’dd e’n dal.”

“Wy’n gwybod bod giraffs yn dal – paid patroniso fi, reit?” O’dd e wedi dechre cynhyrfu. Edryches i o gwmpas y maes parco, yn trio cofio ble o’n i wedi rhoi’r car. “Mae’n flin iawn iawn da fi am ypseto ti,” wedes i. Edrychodd lawr arnai. “Pobol fel chi,” medde’n watwarus, “chi’n meddwl bo pobol dew yn dishgwl gwmws ‘run peth. Bydde ti ddim wedi gweud ‘na os bydde ni’n ddu.” “Ie, ond so ti yn ddu,” wedes i. “Ti’n dew.” Dath ddeigryn i’w lyged. “ Underactive thyroid yw e - hapus nawr?” A cherddodd e bant. Bydde Giraff wedi wherthin mas draw.